top of page

Tŷ Blodau yw enw'r busnes 'rwyf yn ei redeg o fy nghartref ger Caernarfon, Gogledd Cymru. Gan wneud defnydd llawn o hen stabl sydd wedi cael ei drawsnewid yn weithdy, gallaf wneud llawer o lanast a mwynhau creu dyluniadau ar gyfer priodasau, angladdau neu dusw am anrheg. Gan fod hwn yn fusnes teuluol, rydych chi'n debygol iawn o gael ateb i'ch galwad gan un o'm hysgrifenyddion cynorthwyol iawn (gŵr neu'r plant!) Gyda dros 25 mlynedd o brofiad , mae hyn yn golygu ein bod yn gallu cynnig amrywiaeth eang o flodau ar gyfer pob achlysur! Mae'r safle hwn yn rhoi blas bach o'r gwaith yr ydym yn creu. Os na allwch gael hyd i'r hyn rydych yn chwilio amdano, mae croeso i chi gysylltu â ni gyda'ch ymholiad. Rydym wrth ein bodd i greu gwahanol bethau!

IMG_20190422_160553.jpg
rpRIBdLNEPHCxGVr8iiVg-ZSw2yRQ8p805Z0_3i-xJtot2NgO81wvhB5na5365wSUAdrYYZVdRVDI7tJJKCSPkQCBi

Effaith amgylcheddol

Rydym wrth ein bodd yn gweithio gyda natur, ac rydym bob amser yn chwilio am ffyrdd ymarferol o wneud ein gwaith yn fwy cyfeillgar i'r amgylchedd, tra'n dal i roi dewis dylunio o safon uchel i'n cwsmeriaid. Yn ein tudalennau, mae gennym ddyluniadau "Eco" penodol, ac yn cael eu gwneud gan ddefnyddio deunyddiau y gellir eu hailddefnyddio, eu hailgylchu neu eu compostio yn unig. Cadwch olwg am y logo!

pDL6B9flC9kroZKRJYx5s3wodvV2zSMJnysbJICP
bottom of page