Penwythnos Lansiad – Beth Sy’n Digwydd
24-26 Hydref
Beth sy’n digwydd yn lansiad Netti? Penwythnos hyfryd o flaen ni yn Canolfan Ebeneser fel rhan o’r arddangosfa oriel Llewyrcha / Unveiled.
• Nos Wener, bydd rhagolwg yr oriel yn dechrau am 6yh – mi fydda i’n creu gosodiad celf mawr gan ddefnyddio blodau, cerfluniau helyg ac elfennau eraill, wedi’i ysbrydoli gan stori Netti.
• Dydd Sadwrn a Dydd Sul: darlleniadau am 11:30yb yn Gymraeg ac am 2:30yp yn Saesneg.
• Bydd y llyfr ar gael o ddydd Sadwrn ymlaen – mi fydda i’n llofnodi copïau drwy’r penwythnos (cyn belled â bod stoc ar gael!).
Archebu o flaen llaw - wedi'i lofnodi
Does gen i ddim syniad faint o gopïau o'r llyfr i archebu, felly os wyt ti’n awyddus am gopi wedi’i lofnodi, rho dy archeb pan gei di gyfle – mi wna i gadw un arbennig i ti a dod â’r llyfr i lansiad Netti ar Hydref 25–26 yn Ganolfan Ebeneser. Os nad wyt ti’n gallu dod, paid poeni – mi allwn ni drefnu trosglwyddiad cyfrinachol ar ddiwrnod arall!
Os nad ydych chi'n byw'n lleol ac yr hoffech chi gael copi wedi'i lofnodi, bydd y post yn £1.50 (y parsel, a nid pob llyfr) Byddaf yn ei anfon atoch chi yn fuan ar ôl lansio'r llyfr ar
Hydref 25-26 (DU yn unig)