top of page

Mae pawb yn Tŷ Blodau yn cynhyrfu ychydig adeg y Nadolig! Am fraint gallu cynorthwyo i rannu gobaith, cariad a llawenydd. Hyd yn oed yn fwy eleni. Dyma ddetholiad o'n dyluniadau Nadolig, ar gael o ddechrau mis Rhagfyr, hyd at 23ain  am unrhyw beth gwahanol, ffoniwch ni ar 01286672845

1000007524-01.jpeg
Llaw-glwm o flodau cymysg

Mae pob llaw-glwm yn unigryw ac wedi'i wneud yn unigol gennym. Mae’r lluniau a ddangosir yn enghreifftiau o ein gwaith. Ni allwn warantu beth fydd y blodau neu'r dail, (heblaw am y rhai a nodwyd yn benodol) ond rydym yn gwarantu y bydd eich blodau yn ffres ac yn hyfryd!

Hapus i ni ddewis y blodau o'n detholiad ffres ar y ddiwrnod?

Neu efallai yr hoffech chi ddewis o un o'r cynlluniau yma?

Eleni mae gennym duswau wedi'u hysbrydoli gan adar! Ein llaw-glwm coch ac oren - "Robin Goch", dyluniad gwyn clasurol - "Colomen Wen" a'r aur, gwyrdd a glas - "Paun Lliwgar" i ddewis ohonynt! 🦚 

Torchau Drws Moethus

Mae ein dewis moethus o dorchau ar gael mewn naill ai 12" ffrâm  - £30, neu  14" - £50

Dyluniadau pwrpasol hefyd wedi'u gwneud. 

Torchau drws a threfniadau Bedd

Trefniadau Bwrdd Cinio 'Dolig

Mae'r dyluniadau hyn yn cael eu gwneud mewn "floral foam", a dim ond angen eu dyfrio. Mae ein holl drefniadau'n cael eu gwneud yn unigol ar ôl archebu.

Trefniadau fel rhoddion
Rhywbeth Ychwanegol?

Dyma ychydig o ddetholiad o syniadau os hoffech ychwanegu ychydig bach mwy at y dyluniad.

bottom of page