Mae rhywbeth hyfryd am addurno'r drws ar gyfer y Nadolig!
Mae ein torchau yn llawn dail gaeaf hardd, aeron, moch coed, brigau a phob math o drysorau naturiol diddorol. Mae pob un yn cael ei greu â llaw a chariad gennym ni, felly ni fydd dwy yn union yr un fath.
Rydym wedi llunio pedwar dyluniad poblogaidd – o'r 'Winter Walk' gwyllt a llawn brigau, i'r 'Abundance' cyfoethog a lliwgar. Byddwn yn creu eich un chi mor debyg â phosibl i'r llun, yn unol â'r hyn sydd ar gael yn y tymor; neu, os hoffech rywbeth ychydig yn wahanol, rydym bob amser yn hapus i greu rhywbeth yn arbennig ar eich cyfer chi!

Torchau Drws Moethus
Barrug
Tipyn bach o hud y gaeaf, heb fod angen eira! Mae sbriws glas, dail ariannaidd, ysgall a darnau o gen yn rhoi naws rewllyd hyfryd i'r dorch hon. Wedi'i gorffen â rhuban glas tywyll neu ariannaidd i ychwanegu ychydig bach mwy o swyn y gaeaf.
Bach – £30
Canolig – £50
Mawr – £70
Crwydro
Wedi'i hysbrydoli gan dro bach drwy gefn gwlad ar ddiwrnod braf, oer o aeaf. Yn llawn dail bytholwyrdd, aeron, moch coed, ysgall a brigau troellog bendigedig, mae naws wyllt a naturiol i'r dorch hon, fel tasa ni wedi hel trysorau bach ar hyd y ffordd.
Bach – £30
Canolig – £50
Mawr – £70
Sbeis
Tipyn bach o hwyl y Nadolig i'ch drws ffrynt! Yn llawn dail gwyrdd ffres y gaeaf, sleisys oren sych, ffyn sinamon a moch coed, gyda sblash siriol o ruban oren. Yr holl liwiau cynnes hyfryd yna ac arogleuon cyfarwydd y Nadolig.
Bach – £30
Canolig – £50
Mawr – £70
Digonedd
I'r rhai sy'n hoffi torch yn orlawn o bob math o bethau hyfryd! Cymysgedd llon o ddail gwyrddlas y gaeaf, aeron, blodau, moch coed a phennau hadau anarferol, gyda digonedd o liwiau a gweadau. Yn doreithiog, ychydig yn wyllt ac yn llawn hwyl y Nadolig.
Bach – £40
Canolig – £65
Mawr – £90
Rhywbeth Bach yn Wahanol?
Yn ogystal â'n torchau arferol, rydan ni hefyd yn creu addurniadau arbennig a rhai mwy o faint. Dwi'n gweithio efo blodau, ac mae fy ngŵr yn gerflunydd ac yn arddwr, felly rhwng y ddau ohonon ni, mi fedrwn ni feddwl am bob math o bethau!
Boed yn dorch enfawr ar gyfer drws ffrynt crand, portsh wedi'i addurno â gwyrddni'r gaeaf, neu jest ambell gyffyrddiad personol i wneud torch yn un chi, mi fysan ni wrth ein bodd yn helpu. Bach neu fawr, mae digon o gyfle i fod yn greadigol!
Mae prisiau ein dyluniadau arbennig yn dechrau o £50, gyda phrisiau'r rhai mwy yn dibynnu ar beth fysa chi'n hoffi. Cysylltwch am sgwrs. Mi fysan ni wrth ein bodd yn clywed beth sydd gynnoch chi mewn golwg!
(Dyma rai o'n dyluniadau arbennig diweddaraf ar gyfer yr hydref.)
Torchau drws a threfniadau Bedd
Awydd gwneud torch eich hun?
Mi fysan ni wrth ein bodd yn dangos i chi sut!
Dewch draw i un o'n gweithdai gwneud torchau Nadolig am dipyn o hwyl yr ŵyl, digonedd o ddail a gwyrddni hyfryd y gaeaf, a chyfle i greu rhywbeth arbennig i'ch drws ffrynt.
Does dim angen unrhyw brofiad, dewch draw i fwynhau!
Neu, os byddai'n well gynnoch chi fod yn greadigol adra, mae gynnon ni becynnau gwneud torchau hefyd, efo popeth sydd ei angen arnoch chi i roi cynnig arni eich hun!




















